Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2026
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hyn ac mae’n cadarnhau y dylai’r cymhwysiad fod yr un fath â’r cymhwysiad a geir yn Rheoliadau 2023. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ymhellach nad yw darpariaethau cymhwyso fel arfer yn cael eu cynnwys mewn offeryn diwygio.
Serch hynny, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y gwahaniaeth yn effeithio’n sylweddol ar weithrediad y ddarpariaeth gan fod cwmpas y cymhwysiad yn glir yn Rheoliadau 2023.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hyn. Fodd bynnag, nid yw’n ystyried bod y gwahaniaeth yn effeithio’n sylweddol ar weithrediad y ddarpariaeth gan ei bod yn glir at beth y mae’r diwygiad yn cyfeirio, a’r hyn a olygir wrth “is-baragraff (d)”.
Pwynt Craffu Technegol 3: Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau mai’r un ystyr sydd i fod i’r cyfeiriad at “gofnod iechyd personol y claf” ym mharagraff newydd 7A a fewnosodir yn Atodlen 2 ag sydd i “cofnod claf”, fel y’i diffinnir gan baragraff 8 o Atodlen 2.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y gwahaniaeth yn effeithio’n sylweddol ar weithrediad y ddarpariaeth. Fodd bynnag, mae’n nodi y gellir ystyried diwygio hyn pan fydd y Rheoliadau yn cael eu diwygio nesaf. Disgwylir ar hyn o bryd y bydd hyn yn digwydd yn 2026, unwaith y bydd gwaith wedi ei gwblhau ar sut i weithredu rhai o ganlyniadau’r trafodaethau diweddar gyda’r proffesiwn.
Pwynt Craffu Technegol 4: Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hyn. Fodd bynnag, nid yw’n ystyried bod y gwahaniaeth yn effeithio’n sylweddol ar weithrediad y ddarpariaeth gan ei bod yn glir at beth y mae’r diwygiad yn cyfeirio, a’r hyn a olygir wrth “is-baragraff (a)” a “paragraff 2”.
Pwynt Craffu Technegol 5: Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau mai’r bwriad yw i’r ddarpariaeth hon fod yn rhwymedigaeth gyfreithiol, er mwyn sicrhau bod rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu ac asesu a oes angen adolygiad wyneb yn wyneb ffurfiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hyn ac mae’n cadarnhau y gellir ystyried diwygio hyn pan fydd y Rheoliadau yn cael eu diwygio nesaf. Disgwylir ar hyn o bryd y bydd hyn yn digwydd yn 2026, unwaith y bydd gwaith wedi ei gwblhau ar sut i weithredu rhai o ganlyniadau’r trafodaethau diweddar gyda’r proffesiwn.